Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel.
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Hydref 2022
Amser:
12.45 -
15.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13000
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS James Evans AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru ar ddull Llywodraeth Cymru o ddeddfu.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
3.1 SL(6)262 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon.
3.2 SL(6)264 – Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
4.1 SL(6)266 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir etc.) (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.2 SL(6)259 - Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth a Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Rheoliadau Plâu Planhigion (Awdurdodiadau) (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r llythyr gan y Gweinidog.
5.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog.
6.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu)
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.
6.3 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cytundebau rhwng y DU a’r UE
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
6.4 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymgynghoriad ar Fil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
8 Sesiwn graffu gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a'r Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Ysgrifennydd Parhaol ar ddull Llywodraeth Cymru o Ddeddfu.
9 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Adroddiad drafft
Trafododd y
Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Fil Diogelu'r Amgylchedd
(Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a chytunodd arno.
10 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor bapur briffio ar nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd hyd yma yn ystod y Chweched Senedd a thrafododd ei waith parhaus.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU a chytunodd arno.
12 Blaenraglen Waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.